Prawf dyled

Dewiswch yr eitem isod yr ydych yn cael anhawster talu amdano:

Yr hyn mae pobl yn ei ddweud wrthym am gyngor ar ddyledion ar gyfer problemau morgais

Nid yn unig y bu i chi helpu yn ystod cyfnod o straen difrifol, ond fe lwyddoch i arbed fy nghartref...

Os ydych chi’n cael anhawster talu’ch rhent neu forgais, dyma beth allwch chi ei wneud:

  1. Cysylltwch â’ch landlord neu ddarparwr morgais cyn gynted â phosibl a gadael iddo wybod am eich sefyllfa.

  2. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod eich hawliau. Os oes gennych forgais ac yn cael anhawster ad-dalu, rhaid i’r darparwr benthyciadau eich trin yn deg ac yn ystyriol. Yn neilltuol, dylai hefyd roi cyfnod o amser rhesymol i chi ad-dalu’r ddyled. Gall hyn gynnwys rhewi ei log a ffioedd, a chytuno ar gynllun ad-dalu gyda chi. Gall cynghorydd dyledion am ddim roi cymorth i chi gyda hyn a’ch cynghori ynglŷn â’ch hawliau a’ch dewisiadau.

  3. Ceisiwch gyngor ar ddyledion cyfrinachol am ddim. Bydd y cynghorydd yn rhoi help i chi flaenoriaethu’ch biliau, creu cyllideb a siarad â’ch landlord neu’ch darparwr benthyciadau efallai ar eich rhan. Dewch o hyd i gynghorydd dyledion am ddim yn awr

  4. Am ragor o wybodaeth darllenwchProblemau wrth dalu eich rhent neu Problemau wrth dalu eich morgais