Prawf dyled

Dewiswch yr eitem isod yr ydych yn cael anhawster talu amdano:

Os ydych chi’n cael anhawster ad-dalu benthyciad diwrnod cyflog, dyma beth allwch chi ei wneud:

  1. Ceisiwch gyngor ar ddyledion cyfrinachol am ddim. Bydd y cynghorydd ar eich ochr chi a gall eich helpu i roi trefn ar eich problemau ariannol. Dewch o hyd i gynghorydd dyledion am ddim yn awr

  2. Cysylltwch â’ch darparwr benthyciadau cyn gynted â phosibl a gadael iddo wybod am eich sefyllfa. Os ydych yn cael anhawster ad-dalu benthyciad diwrnod cyflog, rhaid i’r darparwr benthyciadau eich trin yn deg ac yn ystyriol. Yn neilltuol, rhaid iddo roi cyfnod o amser rhesymol i chi gael cyngor am ddim ar ddyledion ac ad-dalu’r ddyled. Gall hyn gynnwys rhewi ei log a ffioedd neu gytuno ar gynllun ad-dalu gyda chi

  3. Os ydych wedi cytuno ar awdurdod taliad parhaus (sy’n wybyddus hefyd fel taliad cylchol), gallwch ei ganslo ar unrhyw adeg. Gall hyn helpu os ydych yn cael anhawster i dalu biliau hanfodol ond cofiwch, os gwnewch hyn bydd y ddyled yn parhau’n ddyledus a gall y darparwr benthyciadau barhau i godi llog a ffioedd eraill. Felly mae’n hanfodol eich bod yn rhoi gwybod i’ch darparwr benthyciad a’ch bod yn cael cyngor am ddim ar ddyledion i’ch helpu i ddelio â’r benthyciad.

    O 1 Gorffennaf 2014 ni all y darparwr benthyciadau geisio casglu taliad o’ch cyfrif fwy na dwywaith.

  4. Peidiwch â chario’r benthyciad yn ei flaen neu gasglu’ch dyledion i mewn i fenthyciad newydd oni bai eich bod yn gwybod faint fydd y darparwr benthyciadau yn ei godi arnoch am hyn a’ch bod yn siŵr y gallwch ad-dalu’r benthyciad ar y dyddiad ad-dalu. Os methwch ag ad-dalu’n brydlon gall eich dyledion fynd allan o reolaeth yn gyflym iawn.

    I ddysgu rhagor, darllenwch ein canllaw Problemau wrth ad-dalu benthyciad diwrnod cyflog