Prawf dyled

Dewiswch yr eitem isod yr ydych yn cael anhawster talu amdano:

Beth mae pobl yn ei ddweud wrthym am sut y bu i gyngor ar ddyledion am ddim eu helpu i ddelio â chredydwyr

Roeddwn ofn siarad â fy nghredydwyr. Mae yna bobl sydd yn gwneud hyn ar eich rhan, fel StepChange a Chyngor ar Bopeth sydd yn cael gwared â’r straen sydd arnoch...

Os ydych yn cael anhawster ad-dalu cardiau credyd neu fenthyciadau, dyma beth allwch chi ei wneud:

  1. Siaradwch â’r bobl y mae arnoch arian iddynt cyn gynted â phosibl. Gallant gytuno i chi wneud taliadau llai hyd nes i’ch sefyllfa ariannol wella.

  2. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod eich hawliau. Os ydych yn cael anhawster ad-dalu benthyciad neu gerdyn credyd, rhaid i’r darparwr benthyciadau eich trin yn deg ac yn ystyriol. Yn neilltuol, dylai hefyd roi cyfnod o amser rhesymol i chi ad-dalu’r ddyled. Gall hyn gynnwys rhewi ei log a ffioedd neu gytuno cynllun ad-dalu gyda chi.

    Gall cynghorydd dyledion am ddim roi cymorth i chi gyda hyn a’ch cynghori ynglŷn â’ch hawliau a’ch dewisiadau. Dewch o hyd i gynghorydd dyledion am ddim yn awr.

  3. Defnyddiwch einCynllunydd cyllideber mwyn i chi fedru gwirio eich incwm a'ch gwariant.

  4. Rhowch flaenoriaeth i’ch biliau a chytunwch i dalu beth allwch ei fforddio. Darllenwch ein canllawSut i flaenoriaethu'ch biliau.