Prawf dyled

Dewiswch yr eitem isod yr ydych yn cael anhawster talu amdano:

Os ydych chi’n cael anhawster prynu dillad neu bethau i’r cartref, dyma beth allwch chi ei wneud:

  1. Ceisiwch ddal ati tan eich diwrnod cyflog nesafcyn prynu’r eitem. Gall cymryd benthyciad llog uchel olygu y byddwch yn talu llawer iawn yn rhagor am yr eitem. Ac os na fedrwch ad-dalu’r benthyciad yn brydlon byddwch yn talu llog ychwanegol a ffioedd taliad hwyr.

  2. Ystyriwch brynu’n ail law neu ei gael am ddim o wefan ailgylchu felfreecycle(dolen allanol).

  3. Ceisiwch gysylltu â’ch cyngor lleol(dolen allanol) os yw’n argyfwng a’ch bod ar fudd-daliadau’n seiliedig ar incwm. Er enghraifft os yw’ch boiler wedi torri yn y gaeaf, ni allwch fforddio bwyd, neu eich bod wedi dod allan o ofal, ysbyty neu garchar ac angen cymorth i aros yn eich cartref eich hun. Gallwch gael dodrefn o bosib, a dillad, nwyddau gwynion, grantiau bwyd neu arian. Pobl sydd yn ennill y cyflogau isaf sydd yn cael blaenoriaeth fel arfer.

  4. Defnyddiwch ein Cynllunydd cyllideb i weithio allan i ble mae’ch arian yn mynd bob mis.