Prawf dyled

Dewiswch yr eitem isod yr ydych yn cael anhawster talu amdano:

Os ydych wedi methu taliadau nwy, trydan neu filiau cyfleustodau eraill, dyma beth allwch chi ei wneud:

  1. Cysylltwch â’r cyflenwr ynni ac egluro eich bod yn cael anhawster ei ad-dalu. Os ydych ar ei hôl hi efo’ch taliadau, dylai eich cyflenwr eich trin yn deg a’ch caniatáu i ad-dalu ar gyfradd y gallwch ei fforddio. Os hoffech i rywun wneud hyn ar eich rhan neu os hoffech gael cyngor dewch o hyd i gynghorydd ar ddyledion yn awr.

  2. Darllenwch ein canllaw: Siaradwch â’r bobl y mae arnoch arian iddynt

Mae nifer o gyflenwyr yn cynnig cymorth ychwanegol i gwsmeriaid na allant dalu eu biliau. Mae’n annhebygol iawn y datgysylltir eich cyflenwad os byddwch ar ei hôl hi gyda’ch taliadau (cyn belled na fyddwch yn anwybyddu’ch bil). Ond RHAID i chi siarad â’ch cyflenwr, felly ffoniwch y cwmni ar unwaith os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes.