Prawf dyled

Dewiswch yr eitem isod yr ydych yn cael anhawster talu amdano:

Pan mae arian ar gyfer pethau hanfodol beunyddiol yn dynn, dyma beth allwch chi ei wneud:

  1. Siaradwch â phawb mae arnoch arian iddynt i weld a gytunant i adael i chi dalu symiau llai dros gyfnod hirach. Bydd hyn yn rhyddhau arian parod ar gyfer pethau hanfodol.

    Am ragor o wybodaeth darllenwch ein canllaw: Siaradwch â’r bobl y mae arnoch arian iddynt, neu os hoffech i rywun eich helpui ddod o hyd i gynghorydd ar ddyledion am ddim yn awr

  2. Gofynnwch i’ch cyflogwr am flaenswm o’ch cyflog. Os ydych yn hawlio budd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf, neu os yw’ch arian yn hwyr, gallwch ofyn i’ch cynghorwr Canolfan Byd Gwaith am flaenswm tymor byr.

  3. Gofynnwch i deulu a ffrindiau a allant roi cymorth i chi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn llunio cytundeb ac yn ad-dalu’r arian yn brydlon. Darllenwch ein canllaw: A ddylech chi fenthyca arian gan eich teulu a'ch ffrindiau?