Lle i gael cyngor am ddim ar ddyledion ym Nottingham

Os ydych yn cael anhawster gyda dyledion, gall fod yn anodd gwybod ble i droi. Serch hynny, gyda llawer iawn o wasanaethau cynghori rhad ac am ddim ar gael ym Nottingham a ledled y DU, gallwch ddod o hyd i gymorth sy’n addas ar eich cyfer chi.

Sut fydd cynghorydd dyledion yn eich helpu chi?

Bydd cynghorydd dyledion:

  • byth yn eich barnu na'n gwneud i chi deimlo'n wael am eich sefyllfa
  • yn hapus i siarad gyda chi bob amser, waeth pa mor fawr neu fach yw'ch problem
  • yn chwilio am ffyrdd i reoli’ch dyledion hyd yn oed os credwch nad oes gennych arian i'w clirio
  • awgrymu ffyrdd i ddelio â dyledion nad oeddech chi’n ymwybodol ohonynt efallai.

A wyddech chi?

Dywed wyth o bob deg o bobl sydd wedi cael cyngor ar ddyledion wrthym eu bod yn teimlo dan lai o straen neu'n llai pryderus a gyda mwy o reolaeth ar eu bywydau eto

Ar y dudalen hon cewch hyd i:

Mae’r holl wasanaethau isod am ddim, yn gyfrinachol ac â chod safonol neu aelodaeth wedi ei achredu gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau.

Gwasanaethau wyneb yn wyneb a lleol

Chwiliwch am wasanaeth cyngor ar ddyledion yn lleol i chi. Yna gallwch drefnu apwyntiad wyneb yn wyneb a siarad â chynghorydd arbenigol yn bersonol.

46 results for “nottingham

Wasanaethau cyngor ar ddyledion ar-lein

Mae gwasanaethau ar-lein yn ddiogel a gallwch gael cymorth personol ar unwaith. Mae rhai gwasanaethau ar gael 24 awr y dydd.

Gwasanaethau cyngor ar ddyledion dros y ffôn

Gallwch siarad â chynghorydd arbenigol yn uniongyrchol. Fel arfer mae gwasanaethau dros y ffôn ar gael yn ystod yr wythnos, gyda’r nos ac ar Sadyrnau.

Os ydych yn hunangyflogedig neu’n rhedeg busnes bach a’ch bod mewn dyledion personol neu fusnes, cysylltwch â’r gwasanaeth rhad ac am ddim yn eich ardal: Llinell Ddyled Busnes (Cymru a Lloegr), Llinell Ddyled Busnes (yr Alban) neu Gwasanaeth Dyled Busnes NI (Gogledd Iwerddon).

Wedi sylwi ar wall? Gadewch i ni wybod.

Mae’r holl wasanaethau am ddim, yn gyfrinachol ac yn cynnal safon a achredir gan y Helpiwr Arian. Nid yw’r Helpiwr Arian yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb nac yn atebol am unrhyw gyngor a roddir gan drydydd partïon.