Ble i gael cyngor am ddim ar ddyledion
Os ydych yn cael anhawster gyda dyledion, gall fod yn anodd gwybod ble i droi. Serch hynny, gyda llawer iawn o wasanaethau cynghori rhad ac am ddim ar gael ledled y DU, gallwch ddod o hyd i gymorth sy’n addas ar eich cyfer chi.
Sut fydd cynghorydd dyledion yn eich helpu chi?
Bydd cynghorydd dyledion:
- byth yn eich barnu na'n gwneud i chi deimlo'n wael am eich sefyllfa
- yn hapus i siarad gyda chi bob amser, waeth pa mor fawr neu fach yw'ch problem
- yn chwilio am ffyrdd i reoli’ch dyledion hyd yn oed os credwch nad oes gennych arian i'w clirio
- awgrymu ffyrdd i ddelio â dyledion nad oeddech chi’n ymwybodol ohonynt efallai.
A wyddech chi?
Dywed wyth o bob deg o bobl sydd wedi cael cyngor ar ddyledion wrthym eu bod yn teimlo dan lai o straen neu'n llai pryderus a gyda mwy o reolaeth ar eu bywydau etoAr y dudalen hon cewch hyd i:
- Wasanaethau cyngor ar ddyledion ar-lein
- Gwasanaethau cyngor ar ddyledion dros y ffôn
- Gwasanaethau cyngor ar ddyledion wyneb yn wyneb
Mae’r holl wasanaethau isod am ddim, yn gyfrinachol ac â chod safonol neu aelodaeth wedi ei achredu gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau.
Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau wedi datblygu cyfres o ofynion ansawdd ar gyfer darparu cyngor ar ddyledion. Mae’r holl wasanaethau a restrir ar y dudalen hon yn bodloni’r safonau hyn. Nid yw hyn yn cynnwys gwasanaethau cyngor ar ddyledion yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon sydd yn parhau am ddim ac yn gyfrinachol ond efallai nad oes ganddynt god safonol neu aelodaeth wedi ei achredu gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau.
Wasanaethau cyngor ar ddyledion ar-lein
Mae gwasanaethau ar-lein yn ddiogel a gallwch gael cymorth personol ar unwaith. Mae rhai gwasanaethau ar gael 24 awr y dydd.
-
National Debtline
Money Wellness
-
Money Adviser Network
-
MaeÃÆr Rhwydwaith Arweinwyr Arian yn cynnig cyngor ar ddyledion am ddim sydd wediÃÆi gefnogi gan HelpwrArian. Rhowch eich manylion cyswllt yn gyfrinachol a byddwn yn eich cysylltu gyda darparwr arweiniad arian cymwysedig a rheoledig fel y gallwch fynd
PayPlan
-
StepChange Debt Charity
Debt Advice Foundation
-
Mae'r Sefydliad Cyngor Ar Ddyled yn elusen cyngor ar ddyled ac addysg cenedlaethol sy'n cynnig cymorth a chyngor cyfrinachol am ddim i unrhyw un sy'n poeni am ddyled.
Gwasanaethau cyngor ar ddyledion dros y ffôn
Gallwch siarad â chynghorydd arbenigol yn uniongyrchol. Fel arfer mae gwasanaethau dros y ffôn ar gael yn ystod yr wythnos, gyda’r nos ac ar Sadyrnau.
-
National Debtline
Youth Legal and Resource Centre
-
Debt Advice Foundation
Mae'r Sefydliad Cyngor Ar Ddyled yn elusen cyngor ar ddyled ac addysg cenedlaethol sy'n cynnig cymorth a chyngor cyfrinachol am ddim i unrhyw un sy'n poeni am ddyled.
Citizens Advice
-
PayPlan
Money Wellness
-
StepChange Debt Charity
Gwasanaethau wyneb yn wyneb a lleol
Chwiliwch am wasanaeth cyngor ar ddyledion yn lleol i chi. Yna gallwch drefnu apwyntiad wyneb yn wyneb a siarad â chynghorydd arbenigol yn bersonol.
Os ydych yn hunangyflogedig neu’n rhedeg busnes bach a’ch bod mewn dyledion personol neu fusnes, cysylltwch â’r gwasanaeth rhad ac am ddim yn eich ardal: Llinell Ddyled Busnes (Cymru a Lloegr), Llinell Ddyled Busnes (yr Alban) neu Gwasanaeth Dyled Busnes NI (Gogledd Iwerddon).
Wedi sylwi ar wall? Gadewch i ni wybod.
Mae’r holl wasanaethau am ddim, yn gyfrinachol ac yn cynnal safon a achredir gan y Helpiwr Arian. Nid yw’r Helpiwr Arian yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb nac yn atebol am unrhyw gyngor a roddir gan drydydd partïon.