Cyfrifiannell Treth Trafodiadau Tir
Cyfrifwch y Dreth Trafodiadau Tir ar eich eiddo preswyl yng Nghymru
Mae rhaid i chi dalu Treth Trafodiadau Tir os byddwch yn prynu eiddo neu dir dros bris penodol yng Nghymru.
Bydd y gyfrifiannell hon yn eich helpu i gyfrifo faint mae rhaid i chi ei dalu os ydych yn prynu eiddo preswyl.
Byddwch yn talu’r dreth pan fyddwch yn:
- prynu eiddo rhydd-ddaliadol
- prynu lesddaliad newydd neu bresennol
- trosglwyddo tir neu eiddo yn gyfnewid am daliad, er enghraifft, rydych yn cymryd morgais neu'n prynu rhan mewn tŷ
Os ydych yn prynu eiddo nad yw'n breswylfa neu dir ni all y gyfrifiannell hon helpu. Yn hytrach ewch i llyw.cymru/cyfrifiannell-treth-trafodiadau-tir.
Cyfrifiannell Treth Trafodiadau Tir - Eich canlyniadau
Y gyfradd dreth effeithiol yw 0.00%
Fel arfer byddwch yn talu Treth Trafodiadau Tir (LTT) ar y gyfran o bris yr eiddo pan fyddwch yn prynu eiddo preswyl
Mae'r tabl cyntaf isod yn dangos y cyfraddau LTT byddai rhywun sy'n prynu eu cartref nesaf yn ei dalu.
Os yw’r eiddo’n eiddo ychwanegol neu’n ail gartref, efallai y bydd y cyfraddau preswyl uwch a ddangosir yn yr ail dabl isod yn berthnasol.
Pris prynu’r eiddo | Cyfradd y Dreth Trafodiadau Tir |
---|---|
£0 - £225,000 | 0% |
£225,001 - £400,000 | 6% |
£400,001 - £750,000 | 7.5% |
£750,001 - £1,500,000 | 10% |
£1,500,000+ | 12% |
Ar gyfer eiddo sengl mae LTT wedi'i heithrio ar y £225,000 cyntaf.
Pris prynu’r eiddo | Cyfradd y Dreth Trafodiadau Tir* |
---|---|
£0 - £180,000 | 4% |
£180,001 - £250,000 | 7.5% |
£250,001 - £400,000 | 9% |
£400,001 - £750,000 | 11.5% |
£750,001 - £1,500,000 | 14% |
£1,500,000+ | 16% |
Rhowch gynnig ar?
A wyddech chi?
Mae’n rhaid i chi anfon ffurflen LTT a thalu'r dreth cyn pen 30 diwrnod o'r diwrnod ar ôl i chi gwblhau (neu ddyddiad effeithiol arall y trafodiad). Os oes gennych gyfreithiwr, asiant neu drawsgludwr, byddant fel arfer yn ffeilio'ch ffurflen ac yn talu'r dreth ar eich rhan. Os na wnânt hyn ar eich rhan, gallwch ffeilio ffurflen a thalu'r dreth eich hun gan ddefnyddio'r ffurflen bapur.