Cyfrifiannell treth stamp

Cyfrifwch y Dreth Stamp fydd yn ddyledus gennych os ydych yn prynu eiddo preswyl yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon

Mae rhaid i chi dalu Treth Tir Treth Stamp (SDLT) os byddwch yn prynu eiddo neu dir dros y terfyn presennol yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon. Bydd y gyfrifiannell hon yn eich helpu i gyfrifo faint fydd yn rhaid i chi ei dalu.

Os ydych yn prynu eiddo nad yw'n breswylfa neu dir, neu os nad yw unrhyw un o'r prynwyr yn preswylio yn y DU ni all y gyfrifiannell hon helpu. Yn hytrach ewch i www.gov.uk/stamp-duty-land-tax.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn clirio'r rhif presennol cyn rhoi un newydd i mewn.
£

Prynu yn yr Alban neu Cymru?

Yng Nghymru a'r Alban, yr hyn sy'n cyfateb i Dreth Dir y Dreth Stamp (SDLT) a delir yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, yw'r Dreth Trafodion Tir yng Nghymru (LTT) a'r Dreth Trafodion Tir ac Adeiladau (LBTT) yn yr Alban.

Cyfrifiannell treth stamp - Eich canlyniadau

Gwnewch yn siŵr eich bod yn clirio'r rhif presennol cyn rhoi un newydd i mewn.
£


Y dreth stamp i'w thalu yw
£0.00

Y gyfradd dreth effeithiol yw 0.00%

Fel arfer byddwch yn talu Treth Tir Treth Stamp (SDLT) ar y gyfran o bris yr eiddo pan fyddwch yn prynu eiddo preswyl.

Mae’r tabl isod yn dangos y cyfraddau treth stamp y byddai rhywun sy’n prynu eu cartref nesaf yn ei dalu.

Os yw'r eiddo'n eiddo ychwanegol neu'n ail gartref bydd 3% ychwanegol i'w dalu ar ben y cyfraddau safonol perthnasol.

Pris prynu'r eiddo Cyfradd Treth Stamp Cyfradd Eiddo Ychwanegol*
£0 - £250,000 0% 3%
£250,001 - £925,000 5% 8%
£925,001 - £1,500,000 10% 13%
Dros £1.5 miliwn 12% 15%

* Rhaid i chi dalu’r cyfraddau Treth Tir Treth Stamp (SDLT) uwch pan fyddwch yn prynu eiddo preswyl (neu ran o un) am £40,000 neu fwy, os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • nid hwn fydd yr unig eiddo preswyl gwerth £40,000 neu fwy rydych yn berchen arno (neu'n rhannol berchen arno) unrhyw le yn y byd
  • ni ydych wedi gwerthu neu roi eich prif gartref blaenorol i ffwrdd
  • nid oes gan neb arall les arni sydd â mwy na 21 mlynedd ar ôl

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu’r cyfraddau uwch hyd yn oed os ydych yn bwriadu byw yn yr eiddo rydych yn ei brynu (a ph’un a ydych eisoes yn berchen ar eiddo preswyl ai peidio).

Mae hyn oherwydd bod y rheolau’n berthnasol nid yn unig i chi (y prynwr), ond hefyd i unrhyw un rydych yn briod â nhw neu’n prynu gyda hwy.

A wyddech chi?

Rhaid i chi dalu Treth Stamp cyn pen 14 diwrnod ar ol prynu eiddo. Os ydych yn defnyddio cyfreithiwr i gwblhau'r trawsgludo, bydd fel arfer yn trefnu'r taliad ar eich rhan

Treth Stamp - Popeth sydd angen i chi wybod

Darganfyddwch fwy: