Cyfrifiannell tâl diswyddo
Defnyddiwch y gyfrifiannell tâl a chynllunydd diswyddo i gymryd rheolaeth o’ch sefyllfa – pa un ai’ch bod wedi cael eich diswyddo’n ddiweddar neu os credwch fod hynny’n debygol yn y dyfodol agos.
Beth fyddwch chi'n ei gael
Crynodeb personol o'ch hawliau cyfreithiol a chyngor pwrpasol ar sut i reoli'ch arian wrth ddelio â cholli swydd.

Bydd y cynllun gweithredu'n rhoi
- Cyngor penodol i chi yn seiliedig ar eich sefyllfa bresennol
- Crynodeb o'ch hawliau cyfreithiol sy'n hawdd i'w deall
- Canllaw cam wrth gam syml ar gyfer deall eich sefyllfa ariannol
Camau er mwyn medru delio â cholli swydd
- Deall eich hawliau
- Cyfrifo'r hyn sy'n ddyledus i chi
- Cyfrifo am ba hyd fydd eich arian yn para
- Gwirio i weld a ydych wedi'ch yswirio
- Gweld pa fudd-daliadau allech chi eu hawlio