Cyfrifiannell pensiwn

Canfyddwch eich incwm ymddeol tebygol

Mewn ychydig o gamau syml, gall ein cyfrifiannell bensiwn roi amcangyfrif i chi o’r incwm a gewch ar ôl i chi ymddeol. Bydd hyn yn cynnwys incwm o gynlluniau buddion a ddiffinnir a chyfraniad a ddiffinnir, yn ogystal ag un ai’r Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth neu Bensiwn newydd y Wladwriaeth, yn ddibynnol ar ba bryd y cawsoch eich geni.

Byddwch hefyd yn canfod a fydd eich incwm ymddeol tebygol yn llai na’r hyn fyddech ei angen i ariannu’r ffordd o fyw a ddymunwch ar ôl ymddeol.

  • Cyfrifwch beth yw’ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth a swm eich incwm Pensiwn y Wladwriaeth
  • Dewiswch eich oed ymddeol
  • Cyfrifwch yr incwm targed yr hoffech ei gael ar ôl i chi ymddeol
  • Soniwch wrthym am eich cronfeydd pensiwn, eich cyfraniadau ar hyn o bryd ac unrhyw ffynonellau incwm eraill
  • Gadewch i ni amcangyfrif eich incwm ymddeol tebygol
  • Byddwn yn nodi unrhyw ddiffyg arian yn eich ymddeoliad ac yn awgrymu ffyrdd i wella hyn.