Cyfrifiannell pensiwn
Canfyddwch eich incwm ymddeol tebygol
Mewn ychydig o gamau syml, gall ein cyfrifiannell bensiwn roi amcangyfrif i chi o’r incwm a gewch ar ôl i chi ymddeol. Bydd hyn yn cynnwys incwm o gynlluniau buddion a ddiffinnir a chyfraniad a ddiffinnir, yn ogystal ag un ai’r Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth neu Bensiwn newydd y Wladwriaeth, yn ddibynnol ar ba bryd y cawsoch eich geni.
Byddwch hefyd yn canfod a fydd eich incwm ymddeol tebygol yn llai na’r hyn fyddech ei angen i ariannu’r ffordd o fyw a ddymunwch ar ôl ymddeol.
- Cyfrifwch beth yw’ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth a swm eich incwm Pensiwn y Wladwriaeth
- Dewiswch eich oed ymddeol
- Cyfrifwch yr incwm targed yr hoffech ei gael ar ôl i chi ymddeol
- Soniwch wrthym am eich cronfeydd pensiwn, eich cyfraniadau ar hyn o bryd ac unrhyw ffynonellau incwm eraill
- Gadewch i ni amcangyfrif eich incwm ymddeol tebygol
- Byddwn yn nodi unrhyw ddiffyg arian yn eich ymddeoliad ac yn awgrymu ffyrdd i wella hyn.